SL(5)411 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.
Er mwyn cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr fod yn “myfyriwr cymwys”. I fod yn fyfyriwr cymwys, rhaid i berson fodloni’r darpariaethau cymhwystra ym Mhennod 2 o Ran 4 ac unrhyw ofynion cymhwystra eraill mewn mannau eraill yn y Rheoliadau. Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol. Nid yw person yn fyfyriwr cymwys os, ymhlith pethau eraill, yw’r person hwnnw eisoes wedi ennill cymhwyster sy’n cyfateb i radd feistr neu’n uwch na gradd feistr.
Nid yw cymorth ond ar gael o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5 ac 8. Darperir cymorth i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig ble bynnag y bônt yn astudio yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn nodi darpariaethau ar gyfer, ymhlith pethau eraill:
· cyfrifiadau cymorth manwl
· trosglwyddiadau rhwng cyrsiau dynodedig
· terfynau amser ar gyfer ceisiadau
· casglu gwybodaeth
· taliadau, gordaliadau ac adennill taliadau
· carcharorion cymwys
· gwelliannau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
Gweithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2(i): ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;
Mae eithriad 3 yn rheoliad 10(1), a rheoliad 13(1), yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru nad yw fel arall yn ddarostyngedig i feini prawf neu gyfyngiadau penodol (ac nid ymhelaethir arno yn y Memorandwm Esboniadol). Felly, ymddengys fod hyn yn rhoi disgresiwn sy'n golygu is-ddirprwyo o fath sy'n gofyn am bwerau galluogi penodol.
Nodir bod y pŵer galluogi[1] yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth “ar gyfer penderfynu” ar gymhwystra sydd, mewn gwirionedd, yn caniatáu i Weinidogion Cymru is-ddirprwyo swyddogaeth ddewisol iddynt hwy eu hunain. Fodd bynnag, mae'r ragdybiaeth yn erbyn is-ddirprwyo yn un gref am resymau rheol y gyfraith, ac nid ymddengys ei bod wedi'i gwrthbrofi'n glir yn yr achos hwn dim ond drwy gyfeirio at ddarpariaeth “ar gyfer penderfynu” ar gymhwystra. Er y derbynnir na ellir yn hawdd nodi rhestr gynhwysfawr o feini prawf gwrthrychol yn y ddeddfwriaeth alluogi (er y gallai rheoliadau ei diwygio o bryd i'w gilydd), mae'r Pwyllgor o'r farn bod dadl barchus, sy'n cyfiawnhau adrodd ar y pwynt hwn, y dylai'r pŵer galluogi gyfeirio at feini prawf gwrthrychol yn hytrach na darparu disgresiwn agored yn unig.
Nodir bod Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gyfyngiadau cyffredinol cyfraith gyhoeddus, neu yn wir y gellid cyhoeddi canllawiau gyda'r bwriad o leihau'r disgresiwn, ond nid yw hyn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol a yw'r pŵer galluogi yn ddigon eang i roi'r disgresiwn yn y lle cyntaf.
2. Rheol Sefydlog 21.2(v): bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn y diffiniad o 'corff cyhoeddus' ym mharagraff 20 o Atodlen 3, cyfeirir at 'cenedlaethol, rhanbarthol neu leol'. Mae hyn yn amwys ac yn aneglur. Er enghraifft, nid yw'r ddarpariaeth yn ei gwneud yn glir a fwriedir i ‘genedlaethol’ gyfeirio at gyrff cyhoeddus Cymru, y DU neu gyrff cyhoeddus ehangach.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Mae rheoliad 10(1), eithriad 11 yn dweud nad yw person yn gymwys am fenthyciad ar gyfer Gradd Ddoethurol Ôl-raddedig os yw wedi cyrraedd 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs yn dechrau.
Mae'r Pwyllgor yn mynegi'r pryderon hawliau dynol a chydraddoldeb a ganlyn o ran y terfyn oedran hwn.
Mae Erthygl 2 o Brotocol 1 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (y Confensiwn) yn cynnwys hawl gyffredinol i addysg.
Mae Erthygl 14 y Confensiwn yn darparu y bydd yr hawliau a'r rhyddfreiniau a nodir yn y Confensiwn yn cael eu sicrhau yn ddiwahân, heb wahaniaethu ar sawl sail amrywiol a ddiogelir, gan gynnwys oedran.[2]
Mae adran 13(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf Cydraddoldeb) yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran, oni bai y gellir ei gyfiawnhau o dan adran 13(2).
Mae'r Pwyllgor yn nodi bod y ffiniau o ran disgresiwn yn ehangu'n unol â lefel yr addysg dan sylw, a bod gradd feistr ar lefel uchel yng nghyd-destun addysg. Mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi bod y mesur wedi'i fwriadu i gyflawni nodau polisi cymdeithasol fel y'u nodir yn y Memorandwm Esboniadol, sy'n gyson â'r gyfraith achosion arweiniol sy'n ymwneud â chymhwyso Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb 2000/78/EC.
Mae'r Pwyllgor o'r farn bod y materion a godwyd gan reoliad 10(1), eithriad 11 yn berthnasol i'r hawl i addysg. Mae gosod terfyn oedran uchaf o 60 yn wahaniaethol. Felly, mae’n angenrheidiol edrych a oes cyfiawnhad dros y terfyn oedran uchaf. Os gellir ei gyfiawnhau, nid yw’n groes i’r Confensiwn na'r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae'r Goruchaf Lys wedi gosod prawf pedwar cwestiwn[3]:
a) A oes nod dilys i’r mesur a gymerir sy’n ddigonol i gyfiawnhau cyfyngiad ar hawl sylfaenol?
b) A yw’r mesur a gymerir wedi’i gysylltu yn rhesymegol â’r nod hwnnw?
c) A ellid defnyddio mesur llai ymwthiol?
d) A geir cydbwysedd teg?
Mae’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi cyfiawnhad dros osod terfyn oedran o’r fath ar y sail:
a) Mai nod y cynllun yw cynyddu sgiliau lefel uchel ar gyfer yr economi yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig. Mae’r Llywodraeth yn datgan, er mwyn sicrhau gwerth am arian, fod angen cyllid cynaliadwy a bod terfyn oedran o 60 yn lliniaru’r risg y caiff benthyciadau anghymesur eu cymryd gan fyfyrwyr hŷn a fydd yn annhebygol o ad-dalu swm y benthyciad yn llawn neu wneud ad-daliadau sylweddol, ac y byddai ganddynt nifer cyfyngedig o flynyddoedd gwaith lle byddai eu sgiliau ar gael i’r economi. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi canfyddiadau dadansoddiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud, sy’n ei harwain at y casgliad hwn.
b) Mae angen sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr ac mae’r Llywodraeth o’r farn bod gosod y terfyn oedran yn gysylltiedig yn rhesymol â’r nod.
c) Ystyriwyd y posibilrwydd o nodi mesur llai ymwthiol i gyflawni’r nod. Y casgliad oedd y byddai system a oedd yn gofyn am ymchwiliad ac asesiad unigol yn creu baich gweinyddol trwm a allai ddefnyddio adnoddau prin. Gallai system o’r fath hefyd gyflwyno cyfle i wneud penderfyniadau anghyson.
d) Bydd swm o gyllid drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn cael ei ddosbarthu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i ddarparu bwrsariaeth na ellir ei had-dalu i fyfyrwyr cymwys, 60 oed a hŷn, sy'n astudio cyrsiau Meistr ôl-raddedig yng Nghymru sy'n dechrau yn y flwyddyn academaidd 2019/20. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, ar ôl hynny, nod y Llywodraeth yw darparu mynediad at elfennau grant cymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr 60 oed a throsodd.
e) Gan ystyried ei thystiolaeth sy’n ymwneud â chyfraddau ad-dalu benthyciadau, ond hefyd y cyfraddau cyflogaeth (nid diben y benthyciad yw hwyluso nifer y myfyrwyr sy’n derbyn cyrsiau gradd doethurol nad oes ganddynt fwriad penodol i ddychwelyd i’r gweithle), mae’r Llywodraeth yn ystyried bod y cyfyngiad oed yn taro cydbwysedd teg, ac y cyfiawnheir y terfyn oedran. Fodd bynnag, oherwydd oedran ymddeol cynyddol, mae'r Llywodraeth yn ymrwymo i adolygu pob terfyn oedran sy'n cael ei roi ar israddedigion amser llawn a rhan-amser yn ogystal â chymorth i fyfyrwyr Meistr ôl-raddedig.
Rydym yn croesawu'r cyfiawnhad a nodir yn y Memorandwm Esboniadol. Mae'r amcanion polisi a ddilynir gan y Llywodraeth yn ymddangos yn ddilys ac mae'r camau a gymerwyd gan y Rheoliadau i'w cyflawni wedi'u cysylltu'n rhesymegol â nodau o'r fath. Mae'r Pwyllgor yn nodi'r dadansoddiad opsiynau a amlinellir yn y Memorandwm Esboniadol sy'n rhoi tystiolaeth bod ystyriaeth briodol wedi'i rhoi i osod cyfundrefn eithaf cytbwys sy’n llai ymwthiol. Felly, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth briodol a gofalus i’r cyfiawnhad o osod terfyn oedran uchaf o 60 yn y Rheoliadau hyn.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Mae'r gofynion cymhwystra ar gyfer cyllid myfyrwyr wedi'u drafftio i roi ystyriaeth i aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Felly, bydd ambell fyfyriwr o’r UE yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau. Nid yw wedi ei gadarnhau ar hyn o bryd pa effaith y bydd Brexit yn ei chael ar symudedd myfyrwyr, ond roedd datganiad gan Lywodraeth Cymru ar 2 Gorffennaf 2018 yn cadarnhau y bydd myfyrwyr yr UE yn parhau i fod â hawl i gymorth i fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd 19/20.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb y Llywodraeth i'r pwyntiau craffu technegol yn yr adroddiad hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
8 Mai 2019
[1] Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 22(2)(a)
[2] Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi dyfarnu bod y ‘mathau eraill o statws’ a nodir yn Erthygl 14 yn cynnwys ‘oedran’, (Schwizgebel v Y Swistir (Rhif 25762/07).
[3] R (ar gais Tigere) (Apelydd) v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau (Ymatebydd) [2015] UKSC 57